Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 30 Mai 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 12:10 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle William Powell |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Kevin Barker, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Mandy Collins, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Dr Owen Crawley, Llywodraeth Cymru Gerry Evans, Cyngor Gofal Cymru David Francis, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Lesley Griffiths, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Peter Higson, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Imelda Richardson, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Alison Strode, Llywodraeth Cymru Rhian Huws Williams, Cyngor Gofal Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Fay Buckle (Clerc) Meriel Singleton (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lindsay Whittle a Kirsty Williams. Roedd William Powell yn dirprwyo ar ran Kirsty Williams.
2. Gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2.1 Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.
3. Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - Tystiolaeth gan reoleiddwyr ac archwilwyr
3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am ofal preswyl i bobl hŷn.
3.2 Cytunodd Ms Huws Williams a Mr Evans i ddarparu gwybodaeth am yr amserlen angenrheidiol ar gyfer uwchsgilio’r gweithlu gofal cymdeithasol er mwyn gallu ymateb i breswylwyr sydd ag ystod ehangach o anghenion, gan gynnwys y rhai sydd â dementia, ac i ddarparu copi o’r dystiolaeth a ddarparwyd gan Gyngor Gofal Cymru i’r Pwyllgor Menter a Busnes ar brentisiaethau.
3.3 Cytunodd Mr Evans i ddarparu copi o’r prosiect ymchwil, ‘Care at home’.
4. Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - dull o graffu
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull o graffu ar Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn amodol ar gynnwys rhai ymgyngoreion ychwanegol.
4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn am gopi cynnar o’r rheoliadau drafft a ddarparwyd ar eu cyfer gan y Bil.
5. Papurau i'w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai.
Trawsgrifiad Trawsgrifiad o'r cyfarfod.